1 doy row royddwn dan orddail
2 yn aros gwen elen ail
3 gochel glaw dan gochol glas
4 dan vedwen val yn vydwas
5 ycho i gwelwn ryw evlyn
6 yn sevyll yn hyll i hyn
7 ysgodigaw draw ar draws
8 o hono val gwr hynaws
9 a chroysi rrac ychrysaint
10 y korff mav a swynav saint
11 dowaid affaid ath dewi
12 ymma wytwr pwy wytti
13 myvy taw ath ymovyn
14 dy gyscod hynodtyhun
15 taw er mair na lestair les
16 i vvnegi vyneges
17 dyfod i ddwy devod dda
18 i theml noyth yw yma
19 [26] i ddangos em addwyn gwyn
20 rryw beth wyd may rraib i thwyn
21 nage wr havl anwr hyll
22 nidwyf nidwy felly dwf ellyll
23 godrvm gavr or vn gyvrith
24 {tubgach wyd tebic chwith}
25 i drvchiolayth hiraethlawn
26 nac i ddyn mewn agwedd iawn
27 hevsor mewn sekr yn kekry
28 llorp gwrach ar dydvach dy
29 bi gail yllyllon bowgoyl
30 bwbach ar lyn manach moyl
31 grewr yn chware griors
32 nev ryr llaw yn pori kawn kors
33 garan yn bwrw i gwryd
34 garre yr wyll ar gwr yr yd
35 wyneb palmerth o hyrthgen
36 brawd tv o wr mewn brat hen
37 trwm korff wedi droi mewn karth
38 ble byosti bawl byarth
39 llawer dydd ytti pes lliwiwn
40 gida thi gwae di od gwn
41 pa anaf arnaf amgen
42 a w{dd}osti wddw ysten
43 [27] noc a wyr pob synhwyrawl
44 or byd oll ytt baw diawl
45 ni chyt genais vynghvmwd
46 ni leddais gwn leddf yscwd
47 ni theflais ieir athfl vain
48 ni vwbechais rai bychain
49 ni da yn erbyn vy nawn
50 ni rwystrais wraic gwr estrawn
51 myn vyngred pei mynagwn
52 i rai ni wyr yr hyn awn
53 trennydd kyn torri anoc
54 yn gred y byddyt yn groc
55 mogel taw y magl tost
66 rrac adde yrrai ac a wddost
57 mwy na ffe bai travai vav
58 gowni ar gil y genav
dd ap gwillim ai kan